Polisi Preifatrwydd
Mae Circuit Launderette Services Limited (yn masnachu fel Circuit), (“Ni”) wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd. Rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn gyfrifol am wybodaeth bersonol benodol amdanoch chi. Pan wnawn hyn, rydym yn ddarostyngedig i’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), sy’n gymwys ledled yr Undeb Ewropeaidd (gan gynnwys y Deyrnas Unedig), yn ogystal ag unrhyw gyfreithiau diogelu data perthnasol eraill. Rydym yn gyfrifol fel ‘rheolydd’ yr wybodaeth bersonol honno at ddibenion y deddfau hynny. Mae’r polisi hwn yn nodi ar ba sail y bydd unrhyw ddata personol a gasglwn gennych, neu a roddwch i ni, yn cael ei brosesu gennym ni. Darllenwch y canlynol yn ofalus er mwyn deall ein safbwyntiau a’n harferion mewn perthynas â’ch data personol ac i weld sut y byddwn yn ei drin.
1. GWYBODAETH A GASGLWN GENNYCH CHI
Byddwn yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth ganlynol amdanoch chi:
Gwybodaeth a roddwch i ni.
Dyma wybodaeth amdanoch chi a roddwch i ni drwy lenwi ffurflenni ar ein gwefan neu drwy gysylltu â ni dros y ffôn, e-bost neu mewn ffordd arall. Mae’n cynnwys gwybodaeth a ddarperir gennych pan fyddwch yn defnyddio ein safle, yn ychwanegu credyd at eich cardiau golchi dillad, yn tanysgrifio i restr bostio, yn rhyngweithio drwy sgwrs we neu’n gofyn am ragor o wybodaeth, a hefyd pan fyddwch yn rhoi gwybod am broblem gyda’n safle neu â gwasanaeth neu fater gweithredol. Gall yr wybodaeth a roddwch i ni gynnwys eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn, manylion talu megis manylion cerdyn credyd neu gyfrif banc, a’ch ymatebion i arolygon.
Gwybodaeth a gasglwn amdanoch chi.
Byddwn yn casglu’n awtomatig yr wybodaeth ganlynol bob tro y byddwch yn ymweld d â’n safle:
Gwybodaeth dechnegol, gan gynnwys y cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP) a ddefnyddir i gysylltu eich cyfrifiadur â’r Rhyngrwyd, unrhyw wybodaeth fewngofnodi, manylion a roddir wrth gyflwyno ffurflen, math a fersiwn y porwr, gosodiad parth amser, fersiynau porwr, system weithredu a llwyfan, dyfais a mathau o ddyfeisiau.
Gwybodaeth am eich ymweliad, gan gynnwys y Cyfeiriadau Adnodd Unffurf Llawn (URL), llif clicio i, drwy, ac oddi ar ein safle (gan gynnwys dyddiad ac amser), amseroedd ymateb tudalennau, gwallau lawrlwytho, hyd ymweliadau â thudalennau penodol, gwybodaeth am ryngweithio ar dudalen (megis sgrolio, cliciau a symudiadau llygoden dros eitemau), dulliau a ddefnyddiwyd i adael y dudalen, ac unrhyw rif ffôn a ddefnyddiwyd i ffonio ein gwasanaeth cwsmeriaid.
Gall ein safle, o bryd i’w gilydd, gynnwys dolenni i wefannau ein partneriaid rhwydwaith, hysbysebwyr a chysylltiadau, ac o’r gwefannau hynny. Os byddwch yn dilyn dolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn, nodwch fod gan y gwefannau hynny eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hynny. Gwiriwch y polisïau hyn cyn cyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau hynny.
Gwybodaeth a dderbyniwn o ffynonellau eraill.
Rydym yn casglu’r rhan fwyaf o’r wybodaeth gennych chi yn uniongyrchol fel y nodwyd uchod, ond gallwn hefyd gasglu gwybodaeth o ffynonellau cyhoeddus neu’n uniongyrchol gan drydydd parti. Rydym yn gweithio’n agos gyda thrydydd partïon (gan gynnwys, er enghraifft, partneriaid busnes, is-gontractwyr mewn gwasanaethau technegol, taliadau a dosbarthu, rhwydweithiau hysbysebu, darparwyr dadansoddeg, a darparwyr gwybodaeth chwilio). Gallant ddarparu’r wybodaeth a gasglwyd pan fyddwch yn ymweld â’n safleoedd neu fel y nodwyd uchod.
2. SUT RYDYM YN DEFNYDDIO EICH GWYBODAETH
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi yn y ffyrdd canlynol:
Gwybodaeth a roddwch i ni.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon: I gyflawni ein rhwymedigaethau sy’n deillio o unrhyw gontractau a wneir rhyngoch chi a ni ac i ddarparu’r wybodaeth, y cynnyrch a’r gwasanaethau y byddwch yn gofyn amdanynt gennym; I’ch hysbysu am newidiadau i’n gwasanaeth; I ddelio â chwestiynau ynghylch talu a phroblemau gyda thalu neu ychwanegu credyd at gardiau; I sicrhau bod cynnwys o’n safle yn cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol; At ddibenion marchnata, hoffem gysylltu â chi drwy’r post, e-bost, SMS a ffôn am nwyddau a gwasanaethau a ddarparwn y credwn a allai fod o ddiddordeb i chi, ac lle mae gennym fuddiant cyfreithlon i wneud hynny. Ni fyddwn ond yn cysylltu â chi drwy ddulliau electronig (e-bost neu SMS) lle mae gennym eich caniatâd i wneud hynny. Gallwch ddweud wrthym i roi’r gorau i farchnata unrhyw bryd; I ddarparu gwybodaeth i chi, neu ganiatáu i drydydd partïon dethol ddarparu gwybodaeth i chi, drwy’r post, e-bost, SMS a ffôn am nwyddau neu wasanaethau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi. Pan ganiateir i drydydd partïon dethol ddefnyddio eich data, byddwn ond yn gwneud hyn lle’r ydym yn fodlon bod buddiant cyfreithlon yn bodoli i wneud hynny, ac ni fyddwn (nac nhw) yn cysylltu â chi drwy ddulliau electronig oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni wneudr hyn.
Gwybodaeth a gasglwn amdanoch chi.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon: I weinyddu ein safle ac at ddibenion gweithredu mewnol, gan gynnwys dadansoddi data, profi, ymchwil, ystadegau ac arolygon; I wella ein safle er mwyn sicrhau bod cynnwys yn cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol; Fel rhan o’n hymdrechion i gadw ein safle’n ddiogel; I fesur neu ddeall effeithiolrwydd hysbysebion a gyflwynir i chi ac eraill, ac i gyflwyno hysbysebion perthnasol i chi; I wneud awgrymiadau ac argymhellion i chi ac i ddefnyddwyr eraill ein safle am nwyddau neu wasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi neu iddyn nhw.
Gwybodaeth a dderbyniwn o ffynonellau eraill.
Byddwn yn cyfuno’r wybodaeth hon â’r wybodaeth a roddwch i ni ac â’r wybodaeth a gasglwn amdanoch chi. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon a’r wybodaeth gyfuno at y dibenion a nodir uchod (yn dibynnu ar y mathau o wybodaeth a dderbyniwn).
3. RHESYMAU PAM Y GALLWN GASGLU A DEFNYDDIO EICH GWYBODAETH BERSŏNOL
Mae’r gyfraith ar ddiogelu data yn nodi nifer o seiliau cyfreithiol gwahanol y gall sefydliadau ddibynnu arnynt i ganiatáu casglu a phrosesu data personol. Rydym ni’n dibynnu ar y canlynol fel y nodir isod:
Caniatâd
Mewn rhai achosion, byddwn yn gofyn yn benodol am eich caniatâd i brosesu eich data, e.e. drwy glicio mewn blwch neu gadarnhau ar lafar eich bod yn rhoi caniatâd. Yn yr achosion hyn, byddwn bob amser yn egluro’n glir beth fyddwn yn ei wneud â’ch data ac yn cadw cofnod o’ch caniatâd.
Rhwymedigaethau Contractiol
Mewn achosion eraill, bydd angen i ni ddefnyddio eich data personol i wneud yn union beth rydych yn gofyn ni ei wneud ac i gyflawni ein contract gyda chi. E.e. i helpu gyda thaliad neu faterion ychwanegu credyd at gerdyn bydd angen eich enw a’ch rhif cerdyn arnom.
Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
Os yw’r gyfraith yn mynnu, gall fod angen i ni gasglu a phrosesu eich data er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol.
Budd Cyfreithlon
Mewn sefyllfaoedd penodol, bydd angen eich data arnom i ddilyn ein buddiannau cyfreithlon mewn ffordd y gellir ei ddisgwyl yn rhesymol fel rhan o redeg ein busnes, ac nad yw’n effeithio’n sylweddol ar eich hawliau, rhyddid na’ch buddiannau. Er enghraifft, byddwn yn defnyddio eich hanes prynu i anfon neu ddarparu cynigion personol y credwn y bydd o ddiddordeb i chi a’ch busnes. Byddwn hefyd yn defnyddio eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn i gysylltu â chi â gwybodaeth farchnata uniongyrchol drwy’r post a’r ffôn, gan ddweud wrthych am gynnyrch a gwasanaethau y credwn y gallai fod o ddiddordeb i chi a’ch busnes.
4. GYDA PHWY RYDYM YN RHANNU EICH GWYBODAETH BERSŏNOL
Rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol:
Gydag unrhyw aelod o’n grŵp, sy’n golygu ein his-gwmnïau, ein prif gwmni daliannol ac unrhyw is-gwmnïau ohono, fel y diffinnir yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau’r DU 2006.
Gyda thrydydd partïon dethol gan gynnwys: Partneriaid busnes, cyflenwyr ac is-gontractwyr ar gyfer cyflawni unrhyw gontract a wnawn â nhw neu â chi; Gwesteiwyr gwefannau ac apiau a darparwyr dadansoddeg a pheiriannau chwilio sy’n ein cynorthwyo gyda gweithredu, gwella ac optimeiddio ein safle; Ni fyddwn ond yn caniatáu i’n darparwyr gwasanaeth drin eich gwybodaeth ond os ydym yn fodlon eu bod yn cymryd camau priodol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Rydym hefyd yn gosod rhwymedigaethau contractiol ar ddarparwyr gwasanaeth i sicrhau mai dim ond i ddarparu gwasanaethau i ni ac i chi y cânt ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Os byddwn yn gwerthu neu’n prynu unrhyw fusnes neu asedau, byddwn yn datgelu eich data personol i’r gwerthwr neu’r prynwr posibl o’r busnes neu asedau hynny. Bydd y derbynnydd gwybodaeth yn rhwym wrth rwymedigaethau cyfrinachedd.
5. EIN GWAITH MARCHNATA
Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon diweddariadau (drwy e-bost, neges destun, ffôn neu’r post) am ein cynnyrch neu wasanaethau, gan gynnwys cynigion unigryw, hyrwyddiadau neu gynnyrch neu wasanaethau newydd.
Mae gennym fuddiant cyfreithlon i brosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion hyrwyddo. Mae hyn yn golygu na fydd angen eich caniatâd arnom fel arfer i anfon cyfathrebiadau hyrwyddo. Fodd bynnag, lle mae caniatâd yn ofynnol, byddwn yn gofyn amdano ar wahân ac yn glir.
Byddwn bob amser yn trin eich gwybodaeth bersonol â’r parch mwyaf ac ni fyddwn byth yn ei gwerthu nac yn ei rhannu ag unrhyw sefydliadau y tu allan i’r grŵp at ddibenion marchnata. Fodd bynnag, rydym yn gweithio’n agos gyda’n partner taliadau PayPal ac, o bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn cynnal hyrwyddiadau ar y cyd i gynnig gostyngiadau neu gynilion neu gyfleoedd i ennill gwobrau. Gall y cyfathrebiadau hyn ddod gennym ni neu gan PayPal ac, er ein bod yn rhannu gwybodaeth gyda nhw sy’n ymwneud â’r ffaith eich bod yn gwsmer i ni, y data personol sydd ganddynt amdanoch chi yw’r wybodaeth sydd ganddynt eisoes am eich bod hefyd yn gwsmer PayPal.
Mae gennych yr hawl i ddewis peidio â derbyn cyfathrebiadau marchnata unrhyw bryd trwy: Gysylltu â ni yn info@circuitcardtopup.com Defnyddio’r ddolen “dad-danysgrifio” mewn e-byst neu’r rhif “STOP” mewn negeseuon testun
6. BLE RYDYM YN STORIO EICH DATA PERSONOL
Gall gwybodaeth gael ei chadw yn ein swyddfeydd a’r rhai o gwmnïau ein grŵp, asiantaethau trydydd parti, darparwyr gwasanaeth, cynrychiolwyr ac asiantau fel y disgrifiwyd uchod. (Gweler uchod “Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol”)
Gall y data a gasglwn gennych gael ei storiom ei brosesu neu ei drosglwyddo i staff sy’n gweithredu y tu allan i’r AEE ac sy’n gweithio i ni neu i un o’n cyflenwyr. Mae’r trosglwyddiadau hyn yn ddarostyngedig i reolau arbennig o dan y gyfraith diogelu data berthnasol gan nad oes gan rai gwledydd y tu allan i’r AEE (megis yr Unol Daleithiau) yr un lefel o gyfreithiau diogelu data â’r Deyrnas Unedig a’r AEE. Byddwn yn sicrhau bod unrhyw drosglwyddiad i un o’r gwledydd hyn yn cydymffurfio â’r gyfraith diogelu data. Ein harfer safonol yw defnyddio cymalau model diogelu data safonol sydd wedi’u cymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd. Cysylltwch â ni os hoffech fwy o wybodaeth,.
Mae’r holl wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei storio ar ein gweinyddion diogel. Bydd unrhyw drafodion talu yn cael eu hamgryptio gan ddefnyddio technoleg SSL. Os byddwn wedi rhoi cyfrinair i chi (neu os ydych wedi dewis un) sy’n eich galluogi i gael mynediad i rannau penodol o’n safle, chi sy’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu’r cyfrinair ag unrhyw un.
Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth drwy’r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data wrth ei drosglwyddo i’n safle; rydych yn gwneud hynny ar eich menter eich hun. Ar ôl i ni dderbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch llym i geisio atal mynediad anawdurdodedig
7. AM FAINT RYDYM YN CADW EICH GWYBODAET
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol tra bydd gennych gerdyn talu Circuit neu gyfrif Ap Symudol Circuit yr ydych yn parhau i ychwanegu atogyda ni. Wedi hynny, byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bo angen:
I ymateb i unrhyw gwestiynau, cwynion neu hawliadau a wneir gennych chi neu ar eich rhan; I ddangos ein bod wedi eich trin yn deg; I gadw cofnodion fel sy’n ofynnol o dan y gyfraith.
Ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol at y dibenion a nodir yn y polisi hwn. Mae gwahanol gyfnodau cadw’n berthnasol i wahanol fathau o wybodaeth bersonol. Pan nad oes angen cadw eich gwybodaeth bersonol mwyach, byddwn yn ei dileu neu’n ei gwneud yn ddienw.
8. EICH HAWLIAU
Mae gennych yr hawliau canlynol, y gallwch eu harfer yn rhad ac am ddim:
Mynediad
Yr hawl i gael copi o’ch gwybodaeth bersonol (yr hawl mynediad)
Cywiro
Yr hawl i’n gorfodi i gywiro unrhyw wallau yn eich gwybodaeth bersonol
I gael eich anghofio
Yr hawl i’n gorfodi i ddileu eich gwybodaeth bersonol – mewn sefyllfaoedd penodol
Cyfyngu ar brosesu
Yr hawl i’n gorfodi i gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol – mewn amgylchiadau penodol, e.e. os ydych yn herio cywirdeb y data
Cludadwyedd data
Yr hawl i dderbyn yr wybodaeth bersonol a ddarparwyd gennych i ni, mewn fformat strwythuredig, safonol ac y gellir ei ddarllen gan beiriant a/neu drosglwyddo’r data hwnnw i drydydd parti – mewn sefyllfaoedd penodol
Gwrthwynebu
Yr hawl i wrthwynebu:
♦ unrhyw bryd i’ch gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol (gan gynnwys proffilio);
· mewn sefyllfaoedd penodol eraill i ni barhau i brosesu eich gwybodaeth bersonol, e.e. prosesu a wneir at ddiben ein buddiannau cyfreithlon.
Peidio â bod yn destun penderfynu awtomataidd unigol
Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad sy’n seiliedig yn gyfan gwbl ar brosesu awtomataidd (gan gynnwys proffilio) sy’n cynhyrchu effeithiau cyfreithiol mewn perthynas â chi neu sy’n effeithio’n sylweddol arnoch mewn ffordd debyg.
I gael mwy o wybodaeth am bob un o’r hawliau hyn, gan gynnwys yr amgylchiadau lle maent yn gymwys, cysylltwch â ni neu gweler Canllaw’r Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ar hawliau unigolion o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â’n Rheolwr Preifatrwydd Data: dataprotection@jla.com
Mae gennych yr hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol at ddibenion marchnata. Gallwch arfer yr hawl hon drwy wirio blychau penodol ar y ffurflenni a ddefnyddiwn i gasglu eich data. Gallwch hefyd arfer yr hawl hon unrhyw bryd drwy gysylltu â ni yn dataprotection@jla.com
9. NEWIDIADAU I’N POLISI PREIFATRWYDD
Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon ac, os yw’n briodol, byddwn yn tynnu eich sylw atyntdrwy e-bost. Cadwch olwg yn rheolaidd rhag ofn fod unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i’n polisi preifatrwydd. Adolygwyd ac addaswyd y polisi hwn ddiwethaf ym mis Mai 2018.