TELERAU AC AMODAU CYTUNDEB CWSMERIAID Â CIRCUIT

Mae’r Telerau hyn yn cynnwys darpariaethau pwysig sy’n llywodraethu’r berthynas rhyngoch chi â Circuit. Dylid rhoi sylw arbennig i gymal 7 sy’n cyfyngu ar ein hatebolrwydd. Fe’ch cynghorir i ddarllen y Telerau ac Amodau hyn yn ofalus cyn defnyddio ein gwasanaethau.

  1. CYFLWYNIAD

    Mae’r telerau defnydd hyn (“y Telerau”) yn llywodraethu’r berthynas rhyngoch chi a Circuit Launderette Services Ltd, cwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 02944540 ac sydd â’i brif swyddfa gofrestredig yn Meadowcroft Lane, Halifax Lane, Ripponden, Gorllewin Swydd Efrog, HX6 4AJ (“Circuit”), pan fyddwch yn defnyddio ein peiriannau golchi awtomataidd o frand Circuit (“Peiriant Circuit”) i gael gwasanaeth ganddynt (“y Gwasanaeth”).

    Mae’r Telerau hyn yn nodi gwybodaeth bwysig ynghylch eich hawliau, eich rhwymedigaethau, a’r cyfyngiadau a allai fod yn berthnasol pan fyddwch yn archebu Gwasanaethau gan ein Peiriannau Circuit, felly darllenwch nhw’n ofalus cyn archebu Gwasanaeth. Mae gennym yr hawl i adolygu ac addasu’r Telerau hyn o bryd i’w gilydd, a bydd unrhyw newidiadau a wnawn yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon ar ein gwefan.

    Trwy archebu Gwasanaeth gan ein Peiriannau Circuit, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo’n gyfreithiol gan y Telerau hyn. Os nad ydych yn derbyn y Telerau, ni ddylech archebu ein Gwasanaethau.

    Bydd unrhyw gyfeiriad at “chi” neu “eich” yn golygu chi fel cwsmer ein Gwasanaethau a/neu fel defnyddiwr ein gwefan. Bydd unrhyw gyfeiriad at “ni”, “ein” neu “Circuit” yn cyfeirio at Circuit.

  2. DEFNYDDIO PEIRIANNAU A GWASANAETHAU

    1. Ni fyddwch yn defnyddio Peiriant Circuit:
      1. at unrhyw ddiben anghyfreithlon; neu
      2. at unrhyw ddibenion nad ydynt yn gysylltiedig â golchi neu sychu dillad neu ddefnyddiau tebyg.
    2. Byddwch yn sicrhau’r canlynol:
      1. bod pocedi pob eitem wedi’u gwagio cyn eu rhoi yn y Peiriant Circuit;
      2. na roddir unrhyw beth arall yn y Peiriant Circuit heblaw am ddefnyddiau sy’n addas eu golchi ynddo yn unol â chyfarwyddiadau golchi’r gwneuthurwr; a
      3. eich bod yn dewis y tymheredd a’r rhaglen briodol ar gyfer pob golchiad.
  3. ARCHEBU GWASANAETH A’R CONTRACT

    Mae eich archeb yn gyfystyr â chynnig i ni ar gyfer prynu Gwasanaeth. Bernir eich bod wedi ymrwymo i gontract gyda ni (“y Contract”) os byddwch yn defnyddio ein Gwasanaethau, a bydd y Telerau hyn yn cael eu cynnwys ym mhob Contract.

  4. PRIS A THALIAD

    1. Bydd pris y Gwasanaeth fel y nodir ar ein Peiriant Circuit neu uned daliad neu unrhyw un o’n cymwysiadau ffôn symudol (“Apiau”).
    2. Rhaid talu am bob Gwasanaeth trwy Ap neu drwy daliad digyffwrdd, ac mae angen i ni dderbyn y taliad cyn i ni ddarparu’r Gwasanaeth i chi.
    3. Rydym yn defnyddio darparwyr trydydd parti i gyflawni a phrosesu eich taliadau.
  5. POLISI AD-DALIAD AM BEIRIANT DIFFYGIOL

    1. Dylech gysylltu â ni cyn gynted â phosibl os bydd Peiriant Circuit yn dangos diffyg mecanyddol neu weithredol (ac eithrio camddefnydd gan y defnyddiwr, traul arferol neu ddifrod allanol) sy’n ei atal rhag gweithredu’n gywir. Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw fethiant o’r fath o fewn 48 awr i ddyddiad prynu’r Gwasanaeth, fel arall bydd eich hawliad yn cael ei wrthod.
    2. Os cytunwn fod y Peiriant Circuit yn ddiffygiol (gan weithredu’n rhesymol), byddwn yn ad-dalu pris y Gwasanaeth yn llawn. Rydym yn cadw’r hawl i ofyn i chi anfon tystiolaeth ffotograffig (gan gynnwys lluniau o’r Peiriant Circuit) fel y gallwn asesu’r broblem honedig.
  6. POLISI AD-DALIAD AR APIAU A CHARDIAU GOLCHI

    1. Hawl i ganslo / cael ad-daliad
      1. Mae gennych hawl i ganslo unrhyw gredyd a brynir ar Ap neu gerdyn golchi. Fodd bynnag, ni dderbynnir ceisiadau i ganslo unrhyw gredyd lle mae’r holl gredyd neu ran ohono eisoes wedi’i ddefnyddio.
      2. I ganslo unrhyw gredyd a ychwanegwyd at gerdyn golchi, cysylltwch â ni drwy e-bost neu drwy’r post. Fel y gallwn brosesu eich ad-daliad cyn gynted â phosibl, anfonwch eich cerdyn golchi a’r rheswm dros ofyn am ad-daliad, ynghyd â’r dderbynneb am brynu cod ychwanegu, i: Circuit Launderette Services Ltd, Victoria Court, Halifax Road, Ripponden, Gorllewin Swydd Efrog, HX6 4AJ. Ni roddir ad-daliad am unrhyw gostau postio wrth ddychwelyd y cerdyn golchi i ni pan fyddwch yn gofyn am ad-daliad. Fodd bynnag, byddwn yn talu’r costau hyn os ydych yn trosglwyddo balans y cerdyn golchi i’r Ap (a bydd angen anfon y cerdyn atom hefyd).
      3. I gael ad-daliad ar yr Ap Circuit Go, defnyddiwch yr opsiwn tynnu arian yn eich ap i gael -ad-daliad i’ch hunain. I gael ad-daliad ar unrhyw Ap arall, anfonwch e-bost at refunds@circuitgroup.com gan gynnwys eich Rhif ar gyfer Ap ynghyd â’r dderbynneb ychwanegu sy’n dangos Rhif y Dderbynneb neu Rif y Trafodiad. Byddwn yn codi tâl gwasanaeth o £2 am brosesu’r ad-daliad.
      4. Ni ellir ond gwneud ad-daliad drwy ddefnyddio’r dull talu a ddefnyddiwyd i ychwanegu’r credyd. Ni fydd modd rhoi ad-daliad am unrhyw gredyd nad yw wedi’i ddefnyddio am dros12 mis.
      5. Ni fydd ad-daliadau’n cael eu prosesu ar gyfer unrhyw gredyd am ddim.
    2. Dyddiad dod i ben cod cerdyn
      1. Bydd eich cod ychwanegu ar gyfer cerdyn golchi yn dod i ben ar ôl 14 diwrnod; os na fyddwch yn defnyddio’r cod o fewn yr amser hwn, byddwch yn colli’r credyd. Nid ydym yn atebol am roi cod newydd nac am ad-dalu’r credyd os byddwch wedi caniatáu i’r cod ddod i ben. Unwaith y byddwch wedi defnyddio’r cod ychwanegu i drosglwyddo’r credyd i’ch cerdyn, bydd y credyd hwnnw’n parhau ar y cerdyn am gyfnod amhenodol.
    3. Cardiau coll
      1. Chi fel deiliad y cerdyn (y “cwsmer”) sy’n gyfrifol yn llwyr am y cerdyn golchi, ac ni fydd Circuit yn derbyn atebolrwydd am unrhyw gredyd a gollir os bydd y cerdyn yn cael ei golli neu ei ddwyn. Dylid cadw’r cerdyn yn ddiogel bob amser a'i drin fel arian parod. Ni roddir unrhyw gredyd ar gardiau newydd sy’n cymryd lle cardiau sydd wedi’u colli neu eu dwyn.
      2. Rydym yn cadw’r hawl i godi ffi fach am roi cardiau golchi newydd yn lle rhai sy’n cael eu colli neu eu dwyn.
  7. EIN HATEBOLRWYDD

    1. Yn yr achos annhebygol o golled neu ddifrod i eitem, byddwn yn talu iawndal os caiff ein hatebolrwydd ei gadarnhau yn dilyn ymchwiliad mewnol. Bydd yr iawndal yn unol â’r Canllawiau ar Iawndal Teg a ddarperir gan y Textile Services Association (TSA). Mae canllawiau’r TSA yn nodi y dylid talu iawndal teg a rhesymol yn seiliedig ar draul arferol ac oed yr eitem. Mae’n rhesymol i ni ofyn am luniau o’r labeli gofal, derbynebion, neu gyfriflenni banc neu gerdyn credyd i gadarnhau pris prynu cyn cytuno ar unrhyw iawndal. Os caiff ein hatebolrwydd ei gadarnhau, byddwn yn dilyn canllawiau’r TSA. Ni fydd yr iawndal yn cynnwys unrhyw gostau ychwanegol megis costau cludo, teilwra/addasu etc.
    2. Rhaid i chi archwilio’r eitemau ar ôl cwblhau’r Gwasanaeth ac, os credwch fod unrhyw eitem wedi’i difrodi, rhaid i chi roi gwybod i ni o fewn 48 awr, fel arall caiff eich hawliad ei wrthod.
    3. Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i eitemau:
      1. na chânt eu cyflwyno i ni i’w harchwilio ar ein cais; neu
      2. sydd wedi’u hail-lanhau gennych chi neu drydydd parti.
    4. O dro i dro, gallwn ofyn i archwilio eitemau sydd wedi’u difrodi. Fel arfer byddwn yn casglu’r eitemau hyn, ond mewn rhai achosion gallwn ofyn i chi eu hanfon i’n swyddfa. Ni allwn barhau i ystyried eich hawliad os na ddarperir yr eitemau y gofynnwyd amdanynt.
    5. Yn amodol ar yr is-baragraffau canlynol, byddwn yn talu iawndal i chi (yn unol â pharagraff 7.a) am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o dorri Contract neu esgeulustod ar ein rhan hyd at werth uchaf o £50 yr eitem. Ni fyddwn yn atebol i chi am y canlynol:
      1. unrhyw golled neu ddifrod nad yw’n rhagweladwy. Mae colled neu ddifrod yn rhagweladwy os yw'n ganlyniad amlwg i'r ffaith ein bod wedi torri ein cytundeb â chi neu os oedd wedi'i ystyried gennych chi a ni ar yr adeg y gwnaethom ymrwymo i Gontract ar gyfer y Gwasanaethau;
      2. unrhyw golled anuniongyrchol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i golled elw, colli busnes, tarfu ar fusnes, neu golli cyfle busnes;
      3. unrhyw golled neu ddifrod (gan gynnwys colli lliw, crebachu neu ddifrod arall) sy’n deillio o’r canlynol:
        1. eich methiant i ddilyn unrhyw ofynion neu gyfarwyddiadau arbennig, e.e. dewis y tymheredd anghywir ar gyfer y golchiad;
        2. unrhyw ddifrod presennol cyn dechrau’r Gwasanaeth;
        3. unrhyw wrthrychau allanol a adawyd yn yr eitem neu arno, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: fêps, darnau arian, botymau, gemwaith, cyfflincs, caledwyr coleri, pensiliau neu glipiau tei;
        4. unrhyw ddifrod a achosir gan feddalydd ffabrig;
        5. traul arferol; neu
        6. unrhyw beth a osodir yn y Peiriant Circuit (gennych chi neu rywun arall) ar wahân i ffabrigau sy'n addas i'w golchi ynddo yn unol â chyfarwyddiadau golchi eu gwneuthurwr.
    6. Nid ydym yn eithrio nac yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar ein hatebolrwydd o ran:
      1. marwolaeth neu anaf personol a achosir gan esgeulustod;
      2. twyll neu gamliwio twyllodrus; neu
      3. unrhyw fater arall lle na ellir eithrio na chyfyngu ar atebolrwydd yn unol â’r gyfraith berthnasol.
  8. DATGANIAD PREIFATRWYDD

    Rydym yn parchu hawl pobl i breifatrwydd ac yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau o dan y deddfau diogelu data perthnasol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Am fanylion llawn, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd ar ein gwefan – https://www.circuit.co.uk/privacy-and-cookies/

  9. CYFFREDINOL

    1. Aseiniadau a threfniadau eraill
      1. Gallwn ar unrhyw adeg aseinio, trosglwyddo, morgeisio, codi tâl, is-gontractio neu ddelio mewn unrhyw ffordd arall â’n hawliau neu rwymedigaethau o dan y Contract.
      2. Ni chewch chi aseinio, trosglwyddo, morgeisio, codi tâl, is-gontractio nac ymrwymo mewn unrhyw ffordd arall heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.
    2. Hysbysiadau
      1. Bydd unrhyw hysbysiad neu gyfathrebu arall a roddir i barti o dan neu mewn cysylltiad â'r Contract yn ysgrifenedig, wedi'i gyfeirio at y parti hwnnw yn ei swyddfa gofrestredig (os yw'n gwmni) neu ei brif fan preswylio (mewn unrhyw achos arall) neu unrhyw gyfeiriad arall y mae'r parti hwnnw wedi'i bennu i'r parti arall yn ysgrifenedig yn unol â'r cymal hwn, a bydd yn cael ei anfon yn bersonol, neu drwy bost dosbarth cyntaf wedi'i dalu ymlaen llaw neu wasanaeth dosbarthu diwrnod gwaith nesaf arall, negesydd masnachol, ffacs neu e-bost.
      2. Ystyrir bod hysbysiad neu gyfathrebu arall wedi'i dderbyn: os caiff ei gyflwyno'n bersonol, pan gaiff ei adael yn y cyfeiriad y cyfeirir ato yng nghymal 10.2; os anfonir drwy bost dosbarth cyntaf rhagdaledig neu wasanaeth dosbarthu diwrnod gwaith nesaf arall, am 9:00 am ar y trydydd dweud ar ôl postio; os caiff ei gyflwyno gan negesydd masnachol, ar y dyddiad ac ar yr adeg y mae derbynneb danfon y negesydd wedi'i llofnodi; neu, os anfonir trwy ffacs neu e-bost, am 9:00 am ar yr ail ddiwrnod ar ôl y trosglwyddiad.
      3. Ni fydd darpariaethau'r cymal hwn yn berthnasol i gyflwyno unrhyw achosion neu ddogfennau eraill mewn unrhyw achos cyfreithiol.
    3. Annilysrwydd
      1. Os yw unrhyw ddarpariaeth neu ran ddarpariaeth o'r Contract yn annilys, yn anghyfreithlon neu'n anorfodadwy, ystyrir ei fod wedi'i haddasu i'r graddau lleiaf sy'n angenrheidiol i'w wneud yn ddilys, yn gyfreithlon ac yn orfodadwy. Os nad yw addasiad o'r fath yn bosibl, ystyrir bod y ddarpariaeth berthnasol neu'r ddarpariaeth ran wedi'i dileu. Ni fydd unrhyw addasiad neu ddileu darpariaeth neu ran-ddarpariaeth o dan y cymal hwn yn effeithio ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd gweddill y Contract.
      2. Os yw unrhyw ddarpariaeth neu ran ddarpariaeth o'r Contract hwn yn annilys, yn anghyfreithlon neu'n anorfodadwy, bydd y partïon yn negodi mewn ewyllys da i ddiwygio'r ddarpariaeth honno fel ei bod yn gyfreithlon, yn ddilys ac yn orfodadwy, ac, i'r graddau mwyaf posibl, yn cyflawni canlyniad masnachol arfaethedig y ddarpariaeth wreiddiol.
    4. Hawliau trydydd parti. Ni fydd gan berson nad yw'n barti i'r Contract unrhyw hawliau i orfodi ei delerau.
    5. Amrywiad. Ac eithrio fel y nodir yn y telerau ac amodau hyn, ni fydd unrhyw amrywiad o'r Contract, gan gynnwys cyflwyno unrhyw delerau ac amodau ychwanegol, yn effeithiol oni bai ei fod yn ysgrifenedig ac wedi'i lofnodi gan yr un.
    6. Cyfraith lywodraethol. Bydd y Contract, ac unrhyw anghydfod neu hawliad sy'n deillio ohono neu mewn cysylltiad ag ef neu ei destun neu ei ffurfio (gan gynnwys anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn gytundebol), yn cael eu llywodraethu gan, a'u dehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
    7. Awdurdodaeth. Mae pob parti yn cytuno'n ddiwrthdroadwy y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth unigryw i setlo unrhyw anghydfod neu hawliad sy'n deillio o'r Contract neu mewn cysylltiad â'r Contract neu ei destun neu ei ffurfiad (gan gynnwys anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn gytundebol).
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.